Mai 2020 Cynnydd
Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain Rhyl
Rydym yn ysgrifennu i'ch diweddaru ar gynnydd cyfredol y prosiect a'n cynllun ar gyfer y pedair i chwe wythnos nesaf wrth i ni barhau i baratoi ar gyfer cyflawni'r gwaith Amddiffyn yr Arfordir.
Fel y gwelsoch ar wefan ein prosiect, gwnaethom ddechrau adeiladu prif compownd ein safle oddi ar Marine Drive. Mae hyn yn dod yn ei flaen yn unol â'r canllawiau cyfredol ar COVID-19 gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu. Bydd y gwaith yn parhau cyhyd ag y gallwn sicrhau ein bod yn dilyn y canllaw hwn. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn bwriadu cael y compownd yma yn weithredol erbyn diwedd Mehefin 2020.
Rydym wedi gosod monitor dirgryniad a sŵn yn y prif gompownd yma ac yn bwriadu gosod mwy wrth i'r safle gwaith ehangu. Mae sŵn a dirgryniad yn cael eu graddnodi yn erbyn y safonau perthnasol; BS 6472 a BS 5228 yn y drefn honno i sicrhau cydymffurfiad trwy'r cynllun.
Oherwydd natur linellol y draethlin; bydd y rhan o'r promenâd rhwng y compownd Marine Drive a'r wyneb gwaith gwirioneddol yn Splashpoint yn cael ei ddefnyddio i gludo ein deunyddiau a'n offer i'r ardal weithio. Er mwyn galluogi hyn, mae angen i ni sicrhau bod y promenâd yn strwythurol addas i gymryd y llwythi a orfodir gan y traffig adeiladu, ac felly'n gofyn am waith amddiffyn. Yn anffodus, mae hyn yn golygu bod angen i ni gau'r promenâd o Theatr y Pafiliwn i’r Dwyrain o Gwrs Golff y Rhyl o'r 1af o Fehefin 2020 hyd at Hydref 2022. Fe welwch y bydd wedi'i ffensio'n ddiogel ar y naill ben ac ym mhob pwynt mynediad i'r promenâd i sicrhau ein bod yn cynnal safonau iechyd a diogelwch i bawb. Bydd gwyriad cymeradwy yn ei le ac wedi'i arwyddo i sicrhau y bydd unrhyw un sy'n gadael y promenâd yn gallu parhau â'u taith. Bydd y promenâd presennol yn cael ei adfer yn dilyn ein gwaith i chi ei fwynhau.
Bydd compownd lloeren ychwanegol yn cael ei adeiladu ar ddiwedd Ffordd Garford. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio gan y gweithlu fel maes lles trwy gydol y prosiect ac fel man storio ar gyfer rhai deunyddiau. Heblaw am y gwasanaethau brys, ni fydd Ffordd Garford yn cael ei ddefnyddio i gael mynediad i'r compownd ar unrhyw adeg. I'r perwyl hwn byddwn yn cadw'r giât llifogydd yn y lleoliad hwn ar gau trwy gydol y prosiect.
Byddwn yn sefydlu canolfan galw heibio i ymwelwyr yng nghompownd Marine Drive lle bydd ein Swyddog Cyswllt Cyhoeddus lleol wedi'i leoli. Hyd nes y codir cyfyngiadau Covid rydym yn eich gwahodd i ddefnyddio gwefan y prosiect (www.eastrhylcoast.co.uk) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau a chysylltu â ni mewn perthynas â'r prosiect.
Diolchwn ichi ymlaen llaw am eich amynedd a'ch cydweithrediad yn ystod y gweithiau hyn. Gobeithio eich bod i gyd yn cadw'n ddiogel yn ystod yr amseroedd ansicr hyn.
Yr eiddoch yn gywir
Chris Hull
Asiant Safle
Balfour Beatty CSUK